Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28
Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth - GOHIRIWYD TAN 14 MAWRTH
(0 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(60 munud)
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: cymuned o gymunedau
(30 munud)
8 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymwrthedd Gwrthficrobaidd – Cynnydd Cynllun 5 mlynedd Cymru ar gyfer Anifeiliaid a'r Amgylchedd
(30 munud)
9 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau
(30 munud)
10 Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
(5 munud)
NDM8208 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) Adrannau 1-22
b) Atodlen 1
c) Adrannau 23-24
d) Atodlen 2
e) Adrannau 25-49
f) Teitl Hir.
11 Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023
(5 munud)
NDM8209 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2023 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
(15 munud)
NDM8207 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Awst 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2022, 17 Tachwedd 2022, 6 Rhagfyr 2022 a 15 Chwefror 2023, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol, Memorandwm Rhif 2 a Rhif
3)
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol, Memorandwm Rhif 4)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif
2)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 3 a
4)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif
5)
13 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 1 Mawrth 2023